Cerddorfa Baroc Gymreig harpsicord
Cerddorfa Baroc Gymreig rhan o Gerdd Gynnar Cymru
HafanAmdanom niCyngherddauDolenniCysylltwch a ni
         
 
Amdanom ni
Cyflwyniad
Pobl
Addysg
Recordiau
Adolygiadau a sylwadau
English
  Addysg

 
   

Cerddorfa Baroc Gymreig (cyfarwyddwr Andrew Wilson-Dickson) yw'r unig grwp proffesiynol o'i fath yng Nghymru, sy'n arbenigo mewn perfformiadau offerynnau o'r cyfnod ac sy'n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn rhoi iddi remit addysgiadol gryf gan fod gan yr aelodau stôr o brofiadau dysgu a chwarae. Mae'r chwareuwyr wedi dyfeisio a dysgu ystod o brosiectau cerddorol, o weithio gyda phlant ifanc at ddysgu ym meysydd perfformio ac academaidd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n bosib i GBC weithio ar sawl lefel academaidd:

Gydag oedolion, mae gan y gerddorfa y gallu, oherwydd y wybodaeth eang am agweddau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol cerddoriaeth y gorllewin, I ddyfeisio gweithdaididdorol ar bynciau amrywiol iawn. Yn ogystal a bod yn bobl proffesiynol ym maes addysg uwchradd, mae gan rai aelodau profiad o ddysgu cyrsiau yn addysg barhaol.